Nodweddion diweddaraf Firefox
-
Tawelu pethau
Rhwystrwch hysbysebion a gwella'ch preifatrwydd gyda gosodiadau y mae modd eu haddasu a llwyth o estyniadau y mae modd eu llwytho i lawr.
-
Amldasgio?
Ewch i'r modd darllen, tynnwch fideos allan a byddwch yn fwy trefnus gyda thabiau fertigol a grwpiau tabiau.
-
Cadw trefn ar eich holl dabiau
Caewch gopïau dyblyg, chwiliwch a phiniwch dabiau agored - mae posibiliadau diddiwedd bron ar gyfer y nifer diddiwedd bron o dabiau sydd gennych ar agor.
Cael y porwr sy'n eich helpu i gwblhau'r gwaith
Rhwystro tracwyr hysbysebion heb godi bys
Mae tracwyr hysbysebion yn gwneud i dudalennau gwe lwytho'n arafach. Gyda Firefox , fydd dim rhaid i chi fynd i chwilio drwy'r gosodiadau i drwsio hynny, oherwydd rydym yn rhwystro'r rhan fwyaf o dracwyr yn awtomatig.
Dim tarfu mwyach
Cadwch eich sylw gydag estyniadau fel Tomato Clock a Turn Off the Lights — maen nhw'n cael eu hargymell, sef ein seren aur am fod â diogelwch ac ymarferoldeb eithriadol.
Eich pethau, ar eich holl sgriniau
Defnyddiwch Firefox symudol, fel bod eich cyfrineiriau, tabiau a hanes — a'r preifatrwydd a'r diogelwch rydych yn dibynnu arnyn nhw — yn mynd gyda chi ble bynnag rydych yn mynd iddo.
Eich un chi, *go iawn*
-
Gweithio'n glyfrach, chwarae'n galetach
Archwiliwch y posibiliadau ar gyfer ymchwil, siopa a mwy gydag estyniadau.
-
Ffarwel, porwr diflas
Gall y rhyngrwyd fod yn lle da, gyda'r ychwanegyn cywir thema.
Dim biliwnyddion ers 20+ mlynedd
Cafodd Firefox ei greu yn 2004 gan Mozilla fel dewis cyflymach, mwy preifat a mwy addasadwy i borwyr fel Internet Explorer. Heddiw, rydym yn dal i fod yn ddim-er-elw, yn dal heb fod yn eiddo i unrhyw biliwnydd ac yn dal i weithio i wneud y rhyngrwyd — a'r amser rydych chi'n ei dreulio arno — yn well.